Hanner Tymor Mis Chwefror: Cwrs Dawns Dwys Cynhwysol Ar-lein
Mynnwch doriad o’r drefn ddyddiol ac ymuno â Ballet Cymru am
chwa hwyliog o ddawnsio yn ystod hanner tymor mis Chwefror.
16 – 18 Chwefror 2021
2.00pm-3.00pm
Sesiynau o ddawnsio creadigol rhyngweithiol trwy Zoom
Yn agored i bob oed a gallu
Y cyfraniad a awgrymir £9
Ymunwch â Ballet Cymru yn y chwa fer hon o hwyl greadigol sy’n cynnwys gweithgareddau dawnsio y gall y teulu cyfan ymuno â nhw,
ac a fydd yn rhoi gwên ar wyneb pawb a hwb i’ch egni.
Arweinir y sesiynau gan:
Y Swyddog Mynediad ac Allgymorth, Louise Lloyd
a Dawnsiwr y Cwmni, Joe Powell-Main
Mae Ballet Cymru yn gwmni cynhwysol sy’n croesawu ceisiadau gan ddawnswyr ag anableddau, ynghyd â’r rheiny sydd â nodweddion gwarchodedig.
I wneud cais, llenwch y ffurflen gais a’i hanfon at:
Louise Lloyd – louiselloyd@welshballet.co.uk
Erbyn dim hwyrach na dydd Iau 15 Chwefror 2021.
Ni chaiff unrhyw geisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad hwn eu hystyried.
Nodwch na fyddwch, efallai, yn cael ymateb ar unwaith, ond byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl. Diolch i chi am eich amynedd yn ystod y cyfnod prysur hwn.
Inclusive – Hanner Tymor Mis Chwefror Cwrs Dawns Dwys Cynhwysol Ar-lein
Back to News