Hanner Tymor Mis Chwefror: Cwrs Dawns Dwys Ar-lein i Ieuenctid
Mynnwch doriad o’r drefn ddyddiol ac ymuno â Ballet Cymru
am chwa hwyliog o ballet yn ystod hanner tymor mis Chwefror.
15-17 Chwefror 2021
1.30pm-3.00pm
O’n stiwdio ni i’ch cartref chi
Yn agored i ddawnswyr sydd â phrofiad blaenorol o ballet.
Yr oedran a argymhellir: 11+
Y cyfraniad a awgrymir £15
Ymunwch â Ballet Cymru yn y chwa fer hon o hwyl greadigol sy’n edrych ar ballet sy’n
wirioneddol symud (hyd yn oed mewn gofodau bach yn eich cartref),
yn ogystal ag arddulliau dawns creadigol, cyfoes a Bollywood.
Arweinir y sesiynau gan:
Y Swyddog Mynediad ac Allgymorth:
Louise Lloyd
Dawnswyr y cwmni:
Beth Meadway
Sanea Singh
Isobel Holland
Andrea Battaggia
Mae Ballet Cymru yn gwmni cynhwysol sy’n croesawu ceisiadau gan ddawnswyr
ag anableddau, ynghyd â’r rheiny sydd â nodweddion gwarchodedig.
Neilltuir lleoedd ar sail y cyntaf i’r felin, yn amodol ar gymhwysedd ar gyfer y cwrs.
I wneud cais, llenwch y ffurflen gais a’i hanfon at:
Louise Lloyd – louiselloyd@welshballet.co.uk
Erbyn dim hwyrach na dydd Iau 11 Chwefror 2021.
Ni chaiff unrhyw geisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad hwn eu hystyried.
Nodwch na fyddwch, efallai, yn cael ymateb ar unwaith, ond byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl. Diolch i chi am eich amynedd yn ystod y cyfnod prysur hwn.
Mae’r lleoedd yn brin, felly ewch ati i ymgeisio ar fyrder er mwyn osgoi cael eich siomi!
Youth Dance – Cwrs Dawns Dwys Ar-lein i Ieuenctid copy
Back to News