Dosbarthiadau ballet i oedolion ar-lein
BOB DYDD LLUN O
22 CHWEFROR-22 MAWRTH
Y CYFRANIAD A AWGRYMIR £25 AM 5 DOSBARTH
Dosbarth lefel agored sy’n addas ar gyfer dechreuwyr sy’n barod am her a’r rheiny sydd â phrofiad o ballet. Bydd y 5 wythnos o sesiynau yn cynnwys dosbarthiadau ballet a chyfle i ddysgu repertoire y cwmni.
Yn cael eu cyflwyno yn Gymraeg a Saesneg, ac yn addas ar gyfer dechreuwyr llwyr o ran y Gymraeg.
I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu lle, cysylltwch â Louise:louiselloyd@welshballet.co.uk
Dosbarthiadau dan arweiniad dawnsiwr y cwmni, Hanna Hughes a’r Swyddog Mynediad ac Allgymorth, Louise Lloyd.