Cymryd rhan
Mae gennym awch am ein gwaith ac rydym am ei rannu â chi.
Mae gan Ballet Cymru lond gwlad o gyrsiau, dosbarthiadau, preswyliadau a gweithdai i ddewis o’u plith.
Mae staff Ballet Cymru i gyd wedi’u hyfforddi i ddysgu a chyflwyno gwaith addysg y cwmni, maen nhw’n wedi’u cymeradwyo gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwarchod a chanddyn nhw hyfforddiant cymorth cyntaf. Mae’r gwaith i gyd yn cael ei fonitro a’i gloriannu ac mae’r cwmni’n arfer polisïau caeth iechyd a diogelwch a gwarchod plant ac arfer gorau.
Rydym yn ymegnïo i wneud ein gwaith yn gynhwysol ac o fewn cyrraedd a chredwn y dylai fod gan bawb y cyfle i ddawnsio.