Romeo a Juliet

Romeo a Juliet

gan William Shakespeare

30 31 Mai

Glan yr Afon

Y Cynhyrchiad Dawns Gorau ar Raddfa Fawr, Gwobrau Theatr Cymru 2014

From forth the fatal loins of these two foes
A pair of star-crossed lovers take their life

Cwmni buddugol Gwobr Cylch y Beirniaid, Ballet Cymru, yn cyflwyno addasiad eithriadol o gampwaith Shakespeare, Romeo and Juliet.

Mae ymladd dwys, deuawdau angerddol a themâu cyffredinol yn atseinio trwy goreograffi dramatig a thelynegol. Mae’r gwisgoedd cywrain a’r tafluniadau fideo eithriadol yn creu byd o berygl a chyffro, lle caiff dau gariad ifanc eu dal mewn hen elyniaeth.

Mae Romeo and Juliet yn gydweithrediad dynamig ac unigryw rhwng tri o sefydliadau celfyddydau amlwg Cymru, Ballet Cymru, Coreo Cymru (Cynhyrchydd Creadigol ar gyfer Dawns yng Nghymru www.coreocymru.com) a Theatr Glan-yr-afon yng Nghasnewydd (www.newportlive.co.uk/riverfront)

Mae Romeo a Juliet yn cynnwys gwisgoedd gan Georg Meyer-Wiel (www.meyerwiel.com) a astudiodd yn y Coleg Celf Brenhinol, ac sydd wedi creu gwisgoedd ar gyfer rhai o gwmnïau blaenllaw’r byd, gan gynnwys Rambert Dance Company ac Australian Dance Theatre.tour-dates-header-2019

Back to News