Under Milk Wood

Mae drama i leisiau bellach yn ddawns i eiriau.

Cynhyrchodd Dylan Thomas waith bythol ei ddisgleirdeb yn ei ddrama i leisiau “Under Milk Wood”. Ychwanegodd Richard Burton at y gynhysgaeth â recordiad clasurol sy’n atseinio hyd heddiw. Nawr mae Ballet Cymru yn eich gwahodd chi i glustfeinio ar ddwfn feddyliau a breuddwydion trigolion Llareggub.

Dyma ddehongli – mewn dawns, ballet a theatr gorfforol sy’n torri tir newydd – y ddrama glasurol yn ei holl smaldod tywyll, ei chymeriadau lliwgar a’i hiaith weledigaethol. Dewch at Mrs Ogmore-Pritchard, yn dwrdio ei dau w^r marw’n ddiarbed, neu Captain Cat yn ail-fyw ei ddyddiau ar y môr. Welwch chi Organ Morgan, a’i gerddoriaeth yn chwilen yn ei ben, a Polly Garter yn hiraethu am ei chariad marw. Dewch i’r “bible black village” a nofio yn y “fishing boat bobbing sea”.

Mae ‘Under Milk Wood’ yn cynnwys sgôr gan y cyfansoddwr Thomas Hewitt Jones a enillodd Wobr Macmillan, lluniau gan yr artist o Gymro Jeremy Thomas a thraethiad a draddodir gan yr actor eithriadol o Gymro ac un o Noddwyr y Cwmni, Gwyn Vaughan Jones.

‘We owe a huge debt of gratitude to the likes of Independent Ballet Wales (now Ballet Cymru). How refreshing to spend an evening with dancers creating a world through their personalities and imagination.’
Jeffery Taylor, The Daily Express

‘..the wonderful new music, composed, orchestrated and partly performed live by Thomas Hewitt Jones. 5 stars.’
The Independent

Overall this ballet, like Thomas’s lyricism, oscillates between the dream-charged and the visceral. It is tender yet knowing. In this we have an intimate yet wry elevation of the everyday. If only ballet as original and innovative arrived to Wales more often’
Chris Paul, Theatre in Wales

‘In their delightfully visual adaptation of Under Milk Wood, Ballet Cymru have found a way to celebrate the quirkiness of an adult world with all the charm and comfort of a children’s book.’
Amelia Forsbrook, Buzz Magazine

Diolchiadau

Coreograffi Darius James
Llais Cyntaf Gwyn Vaughan Jones
Cerddoriaeth Thomas Hewitt Jones
Lluniau Jeremy Thomas

Rhagflas