The Light Princess

Ballet newydd o hyd cyflawn ar gyfer 2017 a chanddo sgôr newydd gan y delynores, y cyfansoddwr a’r artist recordio o Gymraes Catrin Finch ar y cyd â Theatr Glan yr Afon yng NghasnewyddThe Light Princess, digwyddiad dawns ysgafnaf a gloywaf y flwyddyn.

Yn defnyddio elfennau o syrcas a choreograffi clasurol aruthrol, ysbrydolwyd y stori gan y Rhiain Gwsg, yn adrodd hanes tywysoges sy’n dioddef gan ddiffyg pwysau parhaol, yn methu rhoi ei thraed ar ddaear, hyd nes iddi gael cariad sy’n dod â hi’n ôl i’r ddaear.

Yn cynnwys tafluniadau fideo sy’n torri tir newydd a gwisgoedd trawiadol o liwgar, bydd The Light Princess yn eich cipio i fyd llawn chwerthin, harddwch a rhyfeddod.Dyma roi bywyd o’r newydd i hanes hynod a bythol George MacDonald, a ddehonglir ar ddawns gan rai o ddawnswyr gorau’r byd i gyfeiliant cerddoriaeth atgofus a thelynegol Catrin Finch.

Oriau Sioeau a Thocynnau