Romeo a Juliet

wales-theatre-awards-logoEnillydd y Cynhyrchiad Dawns Gorau ar Raddfa Fawr yng Ngwobrau Beirniaid Theatr Cymru 2014.

From forth the fatal loins of these two foes

A pair of star-crossed lovers take their life

Un o gwmnïau arobryn Gwobrau’r Critics Circle, Ballet Cymru, yn cyflwyno addasiad rhyfeddol o gampwaith Shakespeare, ‘Romeo a Juliet’.

Ymladd enbyd, deuawdau angerddol a themâu hollgyffredinol yn atseinio drwy goreograffi dramatig a thelynegol. Gwisgoedd gwych a thafluniadau fideo rhyfeddol yn creu byd o beryg a chyffro lle delir dau gariad ifanc mewn cynnen oesol.

Cydweithrediad egnïol a dihafal ydi Romeo a Juliet rhwng tri o gyrff eithriadol Cymru yn y celfyddydau, Ballet Cymru, Coreo Cymru (Cynhyrchydd Dawns Greadigol i Gymru) a Theatr Glan yr Afon yng Nghasnewydd.

Mae Romeo a Juliet yn cynnwys gwisgoedd gan Georg Meyer-Wiel a astudiodd yn The Royal College of Art ac sydd wedi creu gwisgoedd i rai o gwmnïau blaenllaw’r byd gan gynnwys Rambert Dance Company ac Australian Dance Theatre.

But soft, what light through yonder window breaks?

It is the east, and Juliet is the sun.

‘These young dancers created a taut, committed atmosphere on stage, and the audience, comprised of every age group from 5 to 95, were gripped from start to finish. What a refreshing change it was to see this youthful group, brimming over with enthusiasm and commitment, dancing a work so relevant to today’s demographic and which will do so much to bring in new audiences and keep their interest. Ballet Cymru, I salute you!’
Amanda Jennings, Dance Europe Mehefin 2013

Diolchiadau

Wedi’i seilio ar y ddrama gan William Shakespeare
Cerddoriaeth gan Serge Prokofieff
Offeryniaeth wedi’i Lleihau gan John Longstaff
Chwaraeir gan Sinfonia Cymru
Arweinydd Richard Laing
Coreograffi gan Darius James OBE, Amy Doughty a Dawnswyr y Cwmni
Cynorthwywr Ymarfer Jo Fong
Cynllun y Gwisgoedd a’r Set Georg Meyer-Wiel
Cynllun y Goleuo Chris Illingworth
Ffotograffiaeth Sian Trenberth Photography, Sleepy Robot Photography
Hyfforddwr Clocsio Huw Williams

Trwy gennad Boosey & Hawkes Music Publishers Limited

Cyd-gynhyrchiad Ballet Cymru, Coreo Cymru, Theatr Glan yr Afon

Rhagflas
Oriau Sioeau a Thocynnau