Roald Dahl’s Little Red Riding Hood & The Three Little Pigs

wales-theatre-awards-logoEnillydd Gwobr y Cynhyrchiad Dawns Gorau yng Ngwobrau Theatr Cymru 2017.

Y cwmni arobryn, Ballet Cymru, yn cyflwyno gweledigaeth ryfeddol. Dwy stori o feddwl storïwr mwyaf poblogaidd y byd, Roald Dahl.

Yn Llandaf, Caerdydd y ganed Roald Dahl a bellach dyma ddwy o’i straeon aruthrol o boblogaidd yn dod adref yn eu holau i Gymru mewn addasiadau ballet. Rhoddodd The Dahl Foundation ganiatâd i Ballet Cymru gynhyrchu dau o weithiau wedi’u seilio ar rannau o ‘Revolting Rhymes’ gan Roald Dahl, ‘Little Red Riding Hood a Three Little Pigs‘.

Does dim byd byth yn union fel yr ymddengys…

Mae’r ddau waith wedi’u seilio ar sgorau cerddorol eithriadol y cyfansoddwr Paul Patterson, a gydnabyddir drwy’r gwledydd. Darnau comisiwn i The Dahl Foundation oedd y ddwy sgôr ac maen nhw bellach yn glasuron plant a chwaraeir drwy’r byd yn grwn. Roedd sgôr “Little Red Riding Hood” yn amlwg ei lle mewn cynhyrchiad Dydd Nadolig arbennig gan y BBC ym 1995, yn cynnwys lleisiau Ian Holm, Julie Walters a Danny DeVito. Nawr rhoir sgorau pefriol Patterson ar ddawns am y tro cyntaf.

Coreograffwyd y ballet clasurol eithriadol yma gan Darius James ac Amy Doughty, y gerddoriaeth gan y cyfansoddwr Paul Patterson, y gwisgoedd gan Steve Denton a’r cynllun goleuo trawiadol gan John Bishop. Gyda chefnogaeth y Dahl Foundation, aeth y cynhyrchiad ar daith ledled gwledydd Prydain, gan gynnwys Sadler’s Wells. Roedd Felicity Dahl, gwraig Roald a Donald Sturrock, cofiannydd Dahl, yn y première yng Nghasnewydd.

Ym mis Rhagfyr 2016 roedd y perfformiad o Little Red Riding Hood ar lwyfan Donald Gordon yng Nghanolfan Mileniwm Cymru gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn llwyddiant ysgubol a werthodd 1,720 o docynnau i gynulleidfa o bob oed, oedd ar ben ei digon, ac a ganmolwyd i’r cymylau mewn adolygiadau gan Mike Smith ar Arts Scene in Wales a Jane Lambert ar Terpsichore.

Roedd Ballet Cymru wrth ei fodd o ennill gwobr Cynhyrchiad Dawns Gorau 2016 yng Ngwobrau Theatr Cymru Wales Theatre Awards am Little Red Riding Hood.

‘in Little Red Riding Hood and its companion piece, The Three Little Pigs, Darius James and Amy Doughty have created choreography at uses the simplest of means to capture imaginatively the wit of Dahl’s verse and the charm of Paul Patterson’s music. Not too short, and not too long, the evening was a complete delight from start to finish’
Jonathan Gray, Dancing Times

‘It’s a small enterprise with a great deal to shout about. The formula is winning, deftly translating each sentence of the story into vivacious, easily decipherable dance sequences’
Deborah Weiss, Dance Europe Ionawr 2013

‘Engaging, imaginative ballet adaptations of Roald Dahl entertain adults and children alike. 4 stars’
Anna Winter, The Stage

Diolchiadau

Little Red Riding Hood – testun a addaswyd o Revolting Rhymes Roald Dahl Gan Donald Sturrock
The Three Little Pigs Testun gan Roald Dahl
Cerddoriaeth gan Paul Patterson
Recordiwyd y gerddoriaeth i’r ballet gan Gerddorfa Sesiwn Cymru
Chwaraeir y gerddoriaeth yn fyw yng Nghanolfan Mileniwm Cymru gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Goleuo Gan Ceri Benjamin
Sain Gan Mike Holden
Coreograffi gan Darius James ac Amy Doughty
Cynllun y Gwisgoedd a’r Set gan Steve Denton
Cynllun y Goleuo Chris Illingworth
Goruchwyliwr Gwisgoedd Angharad Spencer
Cynorthwywr Gwisgoedd Kate Bohin
Hetiau Thomas Huw Hopkins
Cyfwisgoedd Penny Jane Shearer
Cyflwynwyd Drwy Drefniant â Josef Weinberger Limited

Cyd-gynhyrchiad Ballet Cymru, Theatr Glan yr Afon

Gyda diolch arbennig i:

Rhagflas