Dawns Haf Cymru 2018 ac Ysgol Haf Ballet Rhyngwladol Cymru 2018

23 Gorffennaf – 4 Awst 2018, Theatr Glan yr Afon, Casnewydd

Gyda gwestai arbennig, Charlotte Edmonds

Mae Ballet Cymru yn cynnig cyrsiau creadigol a chyrsiau ballet gwych yr haf hwn!

Mae pob cwrs wedi’i gynllunio ar gyfer ystod o lefelau a phrofiad ballet, o safon gwaith gradd i lefel broffesiynol. Mae’r holl gyrsiau’n cynnwys dosbarth techneg ballet, repertoire ballet a choreograffi.

Yn dibynnu ar y cwrs, mae dosbarthiadau eraill yn cynnwys gwaith pointe, hyfforddiant i ddynion/menywod, pas de deux, Pilates ac ymestyn.

Mae cyrsiau ballet Dawns Haf Cymru yn cael eu harwain gan ddawnswyr proffesiynol Ballet Cymru.

Yn Ysgol Haf Ballet Rhyngwladol Cymru byddwch yn gweithio gyda dawnswyr proffesiynol a Chyfarwyddwyr Artistig Ballet Cymru, a’r gwestai arbennig, Charlotte Edmonds.

Dawns Haf Cymru 2018 ac Ysgol Haf Ballet Rhyngwladol Cymru 2018