Dawnsiwr Newydd Miles Carrott

Mae Ballet Cymru’n bwrw iddo eto, yn ymarfer y ballet newydd sbon danlli grai The Light Princess. Mae gennym ddau ddawnsiwr newydd yn y cwmni, Miles Carrott a Beth Meadway. Dyma i chi ychydig o wybodaeth am Miles.

Miles Carrott portrait
Dechreuodd Miles ei hyfforddiant yn un o Gysyllteion Iau’r Royal Ballet. Wedyn cafodd le yn Ysgol Ddawns Elmhurst lle’r hyfforddodd am bum mlynedd. Daliodd i hyfforddi yn Ysgol English National Ballet am dair blynedd, lle cafodd gyfle i berfformio yn Le Corsaire, The Nutcracker a Romeo and Juliet gydag English National Ballet. Eleni bu ar Raglen Broffesiynol Graddedigion Northern Ballet, yn perfformio yn Goldilocks gyda’r Cwmni. Mae Miles wrth ei fodd o fod bellach yn rhan o Ballet Cymru. Mae’n edrych ymlaen at berfformio yn Première The Light Princess yng Glan yr Afon ar y 19eg o Fai, yn ogystal ag yn A Midsummer Night’s Dream ar daith drwy hyd a lled gwledydd Prydain.Miles Carrott3

Back to News