Dawnsiwr Newydd Beth Meadway

Beth MeadwayBeth Meadway yw dawnsiwr newydd arall Ballet Cymru. Hyfforddodd yn y Central School of Ballet a pherfformio gyda Ballet Central ar eu taith yng ngwledydd Prydain. Aeth ymlaen â’i hyfforddiant yn Rhaglen Graddedion Northern Ballet y llynedd, yn perfformio yn Beauty and the Beast Northern Ballet a goreograffwyd gan David Dixon, a Goldilocks. Mae Beth wrth ei bodd o berfformio gyda’r cwmni yn première The Light Princess yng Nglan yr Afon ar y 19eg a’r 20fed o Fai. Dewch i’w gweld hi’n dawnsio!

Back to News