Dosbarthiadau Ballet i Ddechreuwyr Mewn Oed
Ydi perfformiadau Ballet Cymru yn eich ysbrydoli? Beth am ymuno â’n dosbarthiadau ballet wythnosol yng Nghasnewydd sydd ar fynd nosau Llun o chwech o’r gloch tan hanner awr wedi saith, am ddim ond £6 y dosbarth*.
Mae’r dosbarth yn addas i bob gallu, gan gynnwys oedolion sy’n ailgydio mewn ballet a dawns, a rhieni gyda phlant hy^n sydd am roi cynnig ar ballet gyda’i gilydd!
I gadw’ch lle neu i gael rhagor o wybodaeth, rhowch ganiad i Jenny yn Ballet Cymru ar 01633 892927 neu ebostio jennyisaacs@welshballet.co.uk.
Mae ein stiwdio ddawns yn:
Ballet Cymru
Uned 1, Stad Ddiwydiannol y Wern
Trefgwilym
Casnewydd
NP10 9FQ
Gallwch brynu sgidiau ballet ar lein o Dance Direct.
*os cadwch le ymlaen llaw am bum sesiwn neu fwy, neu os ydych yn un o Ffrindiau Ballet Cymru (cofiwch ddod â’ch cerdyn aelodaeth o’r Ffrindiau). Mae dosbarthiadau picio i mewn yn costio £8 y sesiwn.