Rhoi
Rhoddion
Mae Ballet Cymru yn croesawu rhoddion ar y ffurfiau sy’n dilyn:
- Rhoddion unigol
- Ymuno â’n Cynllun Aelodaeth o’r Ffrindiau
- Gadael Rhodd yn eich Ewyllys
A ninnau’n gorff dielw, buddsoddir pob rhodd gaiff Ballet Cymru yn uniongyrchol yn y Cwmni.
Rhoddion Unigol
Mae croeso mawr i roddion o unrhyw faint, a fydd yn cyfrannu’n uniongyrchol at ddatblygu a chyflenwi gweithgareddau’r Cwmni yn awr ac yn y dyfodol. Cysylltwch â’n Swyddog Datblygu Patricia Vallis i gael gwybod beth ydi’r dewisiadau talu arferol.
Ymuno â’n Cynllun Aelodaeth o’r Ffrindiau
Dewch aton ni heddiw! Mae ymuno’n hawdd, does rhaid i chi ond mynd at ein tudalen Cynllun Ymuno â’r Ffrindiau i gael rhagor o fanylion a gwybodaeth gysylltu.
Rhodd yn Eich Ewyllys
Efallai eich bod chi, aelod o’ch teulu neu un o’ch ffrindiau wedi bod yn un o’n perfformiadau ni? Efallai’ch bod yn teimlo yn nwfn eich calon fod dawns yn gallu chwarae rôl bwysig yn gweddnewid dyheadau pobol ifanc?
Mae rhodd i Ballet Cymru yn eich Ewyllys yn cyfrannu’n ddirfawr i’n dyfodol ni ac yn gaffaeliad i ni ymorol y byddwn yn dal i gyflenwi cynyrchiadau teithiol mawr eu clod ac yn darparu’r hyfforddiant gorau i’r to sy’n codi o ddawnswyr.
Os carech gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i roi i Ballet Cymru, cysylltwch â’n Swyddog Datblygu Patricia Vallis neu fynd i’n tudalen cysylltu â ni.
Rydym yn derbyn taliadau drwy BACS*, neu siec yn daladwy i Gwent Ballet Theatre Ltd.
*cysylltwch â Patricia Vallis os oes arnoch eisiau trefnu i dalu’n electronig, diolch.