Carl Chapple

69432151_457290388157678_736935707032944640_nDros y flwyddyn ddiwethaf, mae arlunydd preswyl Ballet Cymru, Carl Chapple, wedi bod yn creu casgliad newydd o luniau ar gyfer dwy arddangosfa sydd ar ddod – y gyntaf yn Oriel Ffin y Parc, Llanrwst, a’r ail yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd.

Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, bydd y ddwy sioe yn cynnwys paentiadau a lluniadau wedi’u hysbrydoli gan ddawnswyr a choreograffwyr Ballet Cymru, ac yn ymwneud â darnau o’n rhaglen cyn-broffesiynol, Ysgol Haf Ballet Rhyngwladol 2019, a chynyrchiadau’r cwmni Divided We Stand, Celtic Concerto, a Romeo a Juliet.

Bydd yn rhad ac am ddim i ymweld â’r ddwy arddangosfa.

Y dyddiadau yw:

Medi 15 i Hydref 9 – Oriel Ffin y Parc, Llanrwst. Teithiau sain ar gyfer ymwelwyr dall a rhannol ddall ar Fedi 28.

Tachwedd 30 i Ionawr 5 – Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd. Teithiau sain a gweithdai lluniadu ffigyrau i’w cyhoeddi.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan yr arlunydd: www.carlchapple.com.

Mae tocynnau ar gyfer y teithiau sain am ddim, ac ar gael yma: www.ticketsource.co.uk/carlchapple

@celfyddydau , @FfinYParcGallery a @WalesMillenniumCentre

Back to News