Ein hanes
Sylfaenwyd Ballet Cymru ym 1986 gan y Cyfarwyddwr Artistig, Darius James a’r Cyfarwyddwr Gweinyddol, Yvonne Williams i fod yn llusern i ballet clasurol graenus yng Nghymru.
I ddechrau arbrofodd Ballet Cymru gydag amrywiaeth o goreograffwyr, creu rhaglenni o weithiau byrion ac ymateb i wahoddiadau i berfformio. Yn y fan hon comisiynodd y cwmni weithiau gan un o brif ddawnswyr y Royal Ballet, Jennifer Jackson, ac Isabelle Taylor o Ballet Brenhinol Sweden. Roedd y profiad cynnar hwn yn gaffaeliad i lunio a chyfeirio polisi artistig y cwmni.
O 1990 tan ei grant prosiect cyntaf gan The Arts Council of England yn 2003, deuai Ballet Cymru i’r lan heb unrhyw gyllid o gwbl. Ym 1997 cynhyrchodd y cwmni’r cynhyrchiad A Midsummer Night’s Dream a oedd yn dro ar fyd ac a gafodd adolygiad ysgubol yn The Sunday Telegraph gan y Beirniad Ballet mawr ei barch Nicholas Dromgoole.
Yn 2004 rhoes y Cyfarwyddwr Artistig Darius James y gorau i berfformio i ganolbwyntio ar gyfarwyddo artistig y cwmni ac yn 2006 dyfarnwyd i Ballet Cymru Wobr Ddawns Genedlaethol Cylch y Beirniaid, a gyflwynwyd yn Sadlers Wells yn Llundain. Yn 2008 cafodd Darius un o Ddyfyrniadau Mawr Cymru Greadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Mae Ballet Cymru â’i fryd erioed ar gynhyrchu cynyrchiadau newydd a chyffrous gan ddefnyddio cerddoriaeth wreiddiol a byw pryd bynnag y bo modd. Yn 2008 cydweithredodd y cwmni â’r cyfansoddwr Thomas Hewitt Jones i gynhyrchu Under Milk Wood, y perfformiwyd pigion ohono yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.
Yn 2009, daeth y Cyfarwyddwr Artistig Cynorthwyol Amy Doughty yn bumed Cymrodor Dawns mewn Addysg Jane Attenborough Sefydliad Paul Hamlyn.
Yn 2011 dyfarnwyd i Ballet Cymru Statws Refeniw gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac am y tro cyntaf gallai gynllunio’n strategol fwy na blwyddyn ymlaen llaw. O hyn deilliodd cydweithrediadau hynod â’r canwr Cerys Matthews ar TIR, y delynores Catrin Finch ar Celtic Concerto, y canwr Georgia Ruth ar Week of Pines, y cyfansoddwr Thomas Hewitt Jones ar The Same Flame ac â’r cwmnïau Coreo Cymru, Sinfonia Cymru, Dawns Rubicon a Citrus Arts.
Mae’r cwmni bellach yn cynhyrchu un cynhyrchiad y flwyddyn ar y cyd â Theatr Glan yr Afon yng Nghasnewydd.
Yn sgil dyfarniad gan Sefydliad Paul Hamlyn yn 2012 ffurfiwyd y rhaglen addysg sy’n torri tir newydd, DUETS, sef rhaglen hyfforddi dawns wedi’i bwriadu’n neilltuol i blant o gefndiroedd dan anfantais a grwpiau amrywiol ac eithriedig.
Yn 2013 enwebwyd Ballet Cymru yn Gwmni Annibynnol Gorau yng Ngwobrau Dawns Cenedlaethol Cylch y Beirniaid yn Llundain ac at hynny cafodd ddau enwebiad gan Feirniaid Theatr Cymru am y Cynhyrchiad Gorau.
Mae Ballet Cymru yn ymroddedig i gydraddoldeb mewn dawns ac yn 2013 dechreuodd weithio gyda Gloucestershire Dance ar y cywaith cynhwysol ysbrydoledig Stuck In The Mud a berfformiwyd yn Swydd Gaerloyw, Abertawe, Casnewydd, Llandudno a Chaerdydd.
Yn 2014 enillodd y cwmni wobr y Cynhyrchiad Dawns Gorau ar Raddfa Fawr am Romeo a Juliet yng Ngwobrau Beirniaid Theatr Cymru. Hefyd y flwyddyn honno mudodd y cwmni i’w adeilad cyntaf yng Nghasnewydd a roes le o’r diwedd i’r cwmni storio gwisgoedd, gael swyddfeydd i weithio, a man dawnsio hardd i ymarfer.
CYNYRCHIADAU 1986-2015
1986 | hyd at 1990 Darnau comisiwn a gweithiau bychain |
1991 | Hiawatha |
1992 | Cinderella Mossycoat |
1993 | Angela Carter’s The Magic Toyshop |
1994 | Y Brydferth a’r Bwystfil |
1995 | Ulw-Ela |
1996 | Hugan Fach Goch a Chwedl y Bleiddiaid |
1997 | A Midsummer Night’s Dream |
1998 | The Tempest |
1999 | Twelfth Night |
2000 | As You Like It |
2001 | Romeo and Juliet |
2002 | The Taming of the Shrew |
2003 | The Lady of the Lake |
2004 | The Sleeping Beauty |
2005 | Hamlet; A Midsummer Night’s Dream |
2006 | The Canterbury Tales; Giselle |
2007 | Coppélia; The Bride of Flowers |
2008 | Under Milk Wood; Romeo & Juliet |
2009 | How Green Was My Valley; A Midsummer Night’s Dream |
2010 | Lady of the Lake; Giselle; Gweithiau Newydd |
2011 | Y Brydferth a’r Bwystfil; Under Milk Wood |
2012 | Roald Dahl’s Red Riding Hood & The Three Little Pigs; The Tempest; Cold Rolling, coreograffwyd gan Tanja Raman; Tir, yn cynnwys Cerys Matthews |
2013 | Romeo a Juliet; A Midsummer Night’s Dream Concerto Celtaidd yn rhoi llwyfan i Catrin Finch |
2014 | The Same Flame; Week of Pines; Y Brydferth a’r Bwystfil |
2015 | Ulw-Ela |