BALLET CYMRU TAITH CHINA Medi 2019

Mae’n bleser gan Ballet Cymru, cwmni sydd wedi ennill Gwobr y Critics’ Circle, gyhoeddi y byddant yn teithio i dair dinas yn Tsieina ym mis Medi 2019, a hynny mewn cydweithrediad â Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r hyrwyddwr yn Shenzhen, AC Orange.

A hithau’n enillydd y Cynhyrchiad Dawns Graddfa Fawr Gorau yng Ngwobrau Beirniaid Theatr Cymru 2014, bydd Romeo a Juliet yn cael ei pherfformio yn Shijiazhuang (Poblogaeth o 2.19 miliwn), Langfang (Poblogaeth o 4.36 miliwn) a Shenzhen (Poblogaeth o 12.53 miliwn).

Mae’r cynhyrchiad hwn yn gydweithrediad dynamig ac unigryw rhwng tri sefydliad celfyddydol rhagorol yng Nghymru, sef Ballet Cymru, Coreo Cymru (Cynhyrchydd Dance Creative ar gyfer Cymru) a Theatr Glan yr Afon yng Nghasnewydd.tour-dates-header-2019

Mae ymladd dwys, deuawdau angerddol a themâu cyffredinol yn atseinio trwy goreograffi dramatig a thelynegol. Mae’r gwisgoedd cywrain a’r tafluniadau fideo neilltuol yn creu byd o berygl a chyffro, lle caiff dau gariad ifanc eu dal mewn hen elyniaeth.

Mae Romeo a Juliet yn cynnwys gwisgoedd gan Georg Meyer-Wiel, a astudiodd yn y Coleg Celf Brenhinol ac sydd wedi creu gwisgoedd ar gyfer rhai o gwmnïau blaenllaw’r byd, gan gynnwys Rambert Dance Company a’r Australian Dance Theatre.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Artistig, Darius James OBE:

“Rwy’n llawn cyffro wrth feddwl am fynd â Ballet Cymru i Tsieina eleni. Mae Romeo a Juliet yn gynhyrchiad sydd wedi’i wneud yn gyfan gwbl yng Nghymru ac sy’n arddangos rhai o’r dawnswyr gorau sy’n gweithio yng Nghymru heddiw. Bu’n flwyddyn eithriadol – cwrdd â’r Tywysog Charles ym mis Mawrth i gael fy OBE am Wasanaethau i Ballet a Dawns Gymunedol, a ‘nawr yn cynrychioli Cymru ar lwyfan byd-eang gyda chwmni sydd wedi’i leoli yn fy nhref enedigol, Casnewydd.”

Back to News