Anturiaethau Cinderella ym Mharc Cwm Darran!

Nos Wener 8fed Mehefin bydd Parc Cwm Darran yn llywyddu noson swynol o adloniant, a Ballet Cymru yn cyflwyno perfformiad cyffrous o “Cinderella Adventures” yn cynnwys plant o Ysgol Bro Sannan ac Ysgol Gynradd Aberbargoed. Mae’r perfformiad yn cychwyn am chwech o’r gloch ac yn dod i ben am hanner awr wedi saith. Mae’r tocynnau’n costio £10 i oedolion a £5 i blant a hawlwyr tocynnau mantais.

Mae gofyn cadw lle i’r perfformiad a gynhelir yn yr Amffitheatr ym Mharc Cwm Darran. Rhowch ganiad i Stiwt Glowyr y Coed Duon ar 01495 227206 i godi’ch tocynnau, neu ar lein http://purchase.tickets.com/buy/TicketPurchasecinderalla A4 poster

Back to News